Dewch yn ysgol Romodels
Mae ein platfform dysgu ar-lein yn rhoi’r canlynol i ysgolion:
​
Ffordd hawdd o gyflwyno disgyblion i yrfaoedd yr unfed ganrif ar hugain
Proffesiynau arloesol a chuddiedig mewn sectorau o dwf. Nid oes rhaid i ysgolion ddatblygu gwybodaeth ddiwydiannol ddofn i baratoi eu dysgwyr ar gyfer y dyfodol.
​
Profiad wedi’i bersonoleiddio i helpu disgyblion i ddysgu a thyfu
Gall athrawon ganolbwyntio llai ar gynllunio a mwy ar bersonoli gan fod ein rhaglen yn eu galluogi i ymgorffori cyfleoedd dysgu trwy brofiad go iawn, gan ysgogi cynnwys sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru ac wedi'i deilwra i lefel dysgu (cam cynnydd) unigol eu plant.
​
Dulliau i feithrin cred eu dysgwyr ynddynt eu hunain.
Rydym yn helpu plant i adnabod eu cryfderau a nodi'r hyn y gallai ei gymryd i fod yn Romodel felly yn y dyfodol.
Nodweddion
01.
Romodels go iawn o gymunedau amrywiol ar ledled y wlad
02.
Fideos ysbrydoledig sy'n gyfeillgar i blant
03.
Dwsinau o Heriau ar draws y 6 Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh)
04.
Syniadau am ddarpariaeth uwch
​
05.
Canllawiau ar gyfer prosiectau dysgu annibynnol
06.
Adnoddau myfyrio i ddysgwyr ganolbwyntio ar gryfderau
07.
Canllawiau ‘Sut i fod yn...’
08.
Tystysgrifau Romodels X y Dyfodol
Cefnogaeth ar draws yr ysgol
Dysgwyr
Athrawon
Arweinwyr ysgol
-
Rydw i'n cael archwilio llawer o wahanol yrfaoedd, rhai... doeddwn i ddim wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen.
-
Rydw i hefyd yn dysgu sut i wneud penderfyniadau cyfrifol a meddwl fel arweinydd.
-
Mae fy ngwersi yn llawer mwy cyffrous nawr ac maen nhw am bethau mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw ac rydw i'n dda am wneud.
-
Rydw i'n gwella o ran delio gyda heriau a chredu ynof fi fy hun, sy'n gwneud i mi deimlo'n hyderus ac yn gyffrous am yrfaoedd yn y dyfodol.
-
Mae'n cyd-fynd mor dda â'r Cwricwlwm i Gymru. Nid oes rhaid i mi dreulio oriau yn creu adnoddau ychwanegol. Mae'r cyfan yno, yn barod i'w ddefnyddio.
-
Rwy'n hyderus i gyflwyno fy nysgwyr i amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa yn y byd go iawn ac rwy’n gallu teilwra gwersi yn hawdd i ddiwallu anghenion gwahanol ddysgwyr.
-
Mae fy nysgwyr yn meithrin sgiliau beirniadol fel datrys problemau, creadigrwydd, arloesedd, arweinyddiaeth foesegol, a hyd yn oed entrepreneuriaeth.
-
Mae'n cyd-fynd yn hawdd â chwricwlwm ein hysgol a’n themâu, o'r meithrin hyd at flwyddyn 6. Caiff popeth rydym ei angen ei ddarparu, gan arbed amser ac adnoddau.
-
Mae'n cefnogi ymrwymiad ein hysgol i ddysgu personol ac yn cynyddu dyheadau ac ymgysylltiad dysgwyr.
-
Mae Romodels yn cyd-fynd yn berffaith â meysydd Cwricwlwm Cymru ac Estyn, gan ein helpu i gyflawni nodau dysgu trawsgwricwlaidd, tegwch a lles.
Buddion
​​​​Mae'n integreiddio'n hawdd i gwricwlwm eich ysgol.
Mae’n lleihau amser cynllunio i athrawon.
Mae’n datblygu gwybodaeth a sgiliau trawsgwricwlaidd.
​
Mae’n darparu dysgu wedi’i bersonoli trwy gamau cynnydd.
​
Mae’n arddangos modelau rôl amrywiol, gan gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae’n sicrhau cynrychiolaeth.
​​
Mae’n hyrwyddo dwyieithrwydd gyda Romodels Cymraeg a Saesneg eu hiaith ac adnoddau dwyieithog.
​
Mae'n hybu hyder athrawon i ddarparu profiadau gyrfa a phrofiad cysylltiedig â gwaith.
Mae’n helpu i gau'r bwlch dyheadau.
Ymunwch â’r Rhaglen Beilot am ddim
Ymunwch â 23 ysgol ar draws 15 Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd eisoes yn manteisio ar ein rhaglen beilot am ddim! Rydym yn chwilio am 10 ysgol arall—5 cyfrwng Cymraeg a 5 cyfrwng Saesneg—i elwa o'r cyfle anhygoel hwn.
​
Drwy gymryd rhan, bydd eich ysgol yn cael mynediad unigryw i Borth Dysgu Romodel, sy'n cynnwys modelau rôl ysbrydoledig yn ein chwe thema allweddol gyntaf: gwenyn, newid hinsawdd, pobl greadigol, pêl-droed a gwastraff plastig. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddod â'r adnoddau addysgol unigryw ac am ddim hyn i'ch dysgwyr!
​
-
Gwastraff Plastig - Sam G, ecolegydd morol sy'n gweithio'n rhyngwladol i ymgyrchu yn erbyn gwastraff plastig.
-
Gwenyn - Miss Davies, Emmanuel, Liv, ac Abigail, Gwenynwyr o Ysgol Gynradd Llanisien Fach.
-
Pêl-droed - Saffron, Dyfarnwr a Swyddog Gweithredol Pêl-droed sy’n helpu eraill i chwarae pêl-droed yn ddiogel ac yn deg.
-
Sam C, sylfaenydd un o'r brandiau esgidiau carbon-niwtral cyntaf, sy’n gwneud esgidiau ymarfer o blastig wedi'i ailgylchu.
-
Newid Hinsawdd - Evie, garddwr tanddwr (Biolegydd Morol) sy'n helpu i achub ac adfer dolydd morwellt ledled y DU.
-
Technoleg - Morgan a Bleddyn, dau frawd Cymraeg eu hiaith sy'n beirianwyr er daioni, yn creu offer chwaraeon trwy argraffu 3D gan ddefnyddio defnyddiau bioddiraddadwy i leihau gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.
​
Rydym hefyd wrthi'n codi arian ar gyfer themâu yn y dyfodol yn ymwneud ag awyrofod, adeiladu, a goresgyn rhwystrau.
Am bwy rydym yn chwilio?
I gymryd rhan, rydym yn chwilio am ysgolion sy'n:
-
Addysgu disgyblion 3-11 oed ac sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
-
Credu ym mhotensial pob myfyriwr, beth bynnag yw eu cefndir.
-
Dymuno cynyddu dyheadau a hunan-gred plant trwy eu trochi wrth archwilio gyrfaoedd deinamig yr 21ain ganrif.
-
Ymrwymedig i greu dyfodol mwy cynaliadwy i fyfyrwyr.
-
Cynnwys o leiaf 5 athro sy'n barod i gynnwys Romodels yng nghynllunio a chyfarwyddyd eu hystafell ddosbarth am un flwyddyn academaidd.
-
Barod i gwblhau gweithgareddau dechrau'r flwyddyn a diwedd y flwyddyn i helpu Romodels werthuso effaith lawn eu dull dysgu.