top of page
Gadewch i ni roi’r breuddwydion mwyaf i’r lleiaf yn ein plith.

Rydym yn credu mewn byd lle gall pob plentyn gael y rhyddid i freuddwydio a’r gallu i wireddu eu potensial llawn. Mae ymchwil yn dangos, pan gaiff plant eu hamddifadu o’r cyfle i archwilio gyrfaoedd, maen nhw’n dechrau lleihau eu breuddwydion erbyn iddynt gyrraedd chwe blwydd oed, a hynny o ganlyniad i stereoteipiau ynghylch rhywedd, hil/ethnigrwydd, niwroamrywiaeth, neu allu corfforol.

Mae angen ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl i bob disgybl yng Nghymru. Mae ein plant angen cyfle i archwilio cyfleoedd gyrfa deinamig ar gyfer y dyfodol, a hynny o oed cynnar, trwy gyfrwng modelau rôl a all eu hysbrydoli.

A wnewch chi helpu disgyblion ein cenedl i ddarganfod modealu rôl cudd y tu mewn a’r tu allan i’w cymunedau? A wnewch chi ymuno â ni trwy roi i’r lleiaf yn ein plith y breuddwydion mwyaf – a’r wybodaeth, yr adnoddau a’r credoau i’w gwireddu nhw?

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am Romodels. Gyda’n gilydd, gallwn ffurfio newidwyr ac arloeswyr y dyfodol!

Sut Gallwch Chi Helpu? 

To reach half a million children by 2027, Romodels needs your support to expand the diversity of our Romodels and provide tailored resources for children across Wales and beyond.  Your support propels our mission forward, transforming the educational journey for children who need it the most. 

1

Cefnogwch blentyn

Future Fire Fighter

Rhowch gyfle i ehangu posibiliadau ac uchelgeisiau gyrfaol disgybl ar gyfer y dyfodol. Gyda rhodd o £10, byddwch yn galluogi Romodels i gyrraedd un disgybl am flwyddyn

2

Mabwysiadwch ddosbarth

Classroom of the future

Gallwch feithrin hafan o ddysgu a darganfod gyrfaoedd i feddyliau ifanc. Bydd eich rhodd o £250 yn arfogi un dosbarth â chwricwlwm Romodels am flwyddyn.

3

Grymuswch ysgol

Future Careers

Ailddiffiniwch yr hyn sy’n bosibl i ddisgyblion mewn ysgol gyfan. Bydd eich rhodd hael o £1000 yn rhoi mynediad i gannoedd o ddisgyblion i gwricwlwm Romodels am flwyddyn.

 ​Byddwch yn fodel rôl. Dewiswch eich dylanwad.

Eich cefnogaeth chi yw’r hyn a fydd yn gwneud Romodels yn bosibl. Gwnewch rodd un-tro neu luniwch ddyfodol mwy disglair i ddisgyblion am ddegawdau i ddod trwy sefydlu rhodd gylchol i gynnal ein breuddwyd ar y cyd.

Make a donation

One time

Monthly

Amount

£10.00

£50.00

£250.00

£1,000.00

Other

0/100

Comment (optional)

Partneriaethau corfforaethol

Bydd Romodels yn parhau i ymestyn ei gwricwlwm i ehangu’r nifer o yrfaeodd y gall disgyblion eu darganfod a’u profi. 

1

Future Marine Biologist

Noddwch Romodel

Dangoswch eich ethos corfforaethol o roi rhywbeth yn ôl trwy agor posibiliadau gyrfa a noddi Romodel o’ch maes gwaith neu o faes arall rydych chi am i blant ei ddarganfod.

  • Sicrhewch sylw i’ch brand fel noddwr y Romodel hwn, gan ennill cydnabyddiaeth am eich cefnogaeth i’r gwaith o gyflwyno’r cyfle i ddarganfod gyrfaoedd i filoedd o ddysgwyr oed cynradd yn eich cymuned.

  • Byddwch yn derbyn postiadau gennym ar y cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod eich cyfraniad.

2

Future  Careers

Noddwch Thema

Sefwch allan fel tywysydd disglair cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Bydd eich nawdd yn dod â thema’n fyw trwy gyfrwng gwrthych pob dydd, gan ehangu posibiliadau a chyfleoedd gyrfa i blant cynradd eu profi. 

  • Enwebwch Romodel o fewn eich sefydliad i ymddangos yn ein cwricwlwm.

  • Ymunwch â’n bwrdd cynghori i helpu i ddod â’r thema’n fyw.

  • Sicrhewch sylw i’ch brand fel noddwr y thema hon, gan ennill cydnabyddiaeth am eich cefnogaeth ledled Cymru.

  • Manteisiwch ar sawl neges gennym ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch eich partneriaeth wrth i ni lansio’r thema newydd

Ein Cefnogwyr 

Os ydych chi’n angerddol dros weledigaeth a chenhadaeth Romodels, ymunwch â ni i’w wneud yn realiti. Gall eich cefnogaeth chi ein helpu ni i ffurfio dyfodol mwy disglair i filoedd o blant.

Ein cefnogwyr

 Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad diwyro i’r gwaih o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o newidwyr ac arloeswyr. Mae eich haelioni wedi cael effaith sylweddol mewn cyfnod byr o amser i blant ledled Cymru.  Mae’ch cred yn ein cenhadaeth yn tanio ein hymdrechion o ddydd i ddydd ac yn ein hysbrydoli i barhau â’n gwaith gydag egni o’r newydd.

Diolch am fod yn rhan hanfodol o’n taith ac am gredu mewn grym newid.

Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth!

 

Margaret and John Fox

Margaret and John Fox

Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth wrth ein helpu i ddatblygu ein set gyntaf o adnoddau. Mae eu cefnogaeth bob amser wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i droi syniad yn realiti ac wrth wneud ein cynnyrch all-lein cyntaf .

Margaret and John Fox

Aviva Community Fund 

Aviva Community Fund Logo

Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Gymunedol Aviva am y cyfle i dreialu ein dull arloesol a chyflwyno ein modelau rôl cyntaf mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Mae eu cyllid cyfatebol ar gyfer ein hymgyrch cyllido torfol ddiweddar wedi bod yn allweddol wrth ddod â'r weledigaeth hon yn fyw. Diolch am ein grymuso i gael effaith ystyrlon.

Aviva Community Fund Logo

Unltd

Unltd logo

Mae Romodels yn falch o'n gwobr gan UnLtd, sylfaen y DU ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol. Mae cyllid y wobr a'r cymorth busnes sydd wedi'i deilwra wedi helpu Romodels yn sylweddol i gyrraedd miloedd o ddysgwyr cynradd, trwy gefnogi datblygiad ein porth dysgu ar-lein.

Unltd logo

Prifysgol Caerdydd

Cardiff University Logo

Hoffem ddiolch i'r Athro Les Baillie a phrosiect Pharmabees am ein helpu i egluro pwysigrwydd bioamrywiaeth a pheillwyr i'r genhedlaeth nesaf. 

Cardiff University Logo

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Football Association of Wales Logo

Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chefnogi eu Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant PAWB 2021-26 sy'n nodi ein Gweledigaeth o Bêl-droed i Bawb, ym Mhobman yng Nghymru.

Football Association of Wales Logo

Plymouth Marine Laboratory

Plymouth Marine Laboratory

Hoffem ddiolch yn fawr i'r Ecolegwyr Morol gwych yn Labordy Morol Plymouth, Ana, Anthony a Sam, am ein helpu i dynnu sylw at yr angen i helpu i achub ein cefnforoedd rhag dinistr dynol. 

Plymouth Marine Laboratory

Elusen Gwendoline a Margaret Davies 

Gwendoline and Margaret Davies Charity

 Hoffem ddiolch i Elusen Gwendoline a Margaret Davies am eu cefnogaeth hael i ariannu'r cyfieithiad Cymraeg o'n hadnoddau Romodel cyntaf, gan alluogi ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ledled Cymru eu defnyddio.

Gwen and mags web W.png

People's Postcode Lottery 

Postcode Community Trust

Rydym yn hynod ddiolchgar i chwaraewyr y People's Postcode Lottery am eu cefnogaeth hael, sydd wedi ein galluogi i lansio ein Romodel diweddaraf. Rydym yn gyffrous i gyflwyno Evie, garddwr tanddwr sy'n ymroddedig i ailblannu dolydd morwellt ledled y DU. Gan fod morwellt yn dal mwy o garbon na fforestydd glaw trofannol, mae ei gwaith yn hanfodol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Wedi'i enwebu gan ddisgyblion Awel yr Mor ym Mhort Talbot, mae'r prosiect hwn yn arbennig o ystyrlon i'r gymuned leol.

Peoples Postcode Lottery

Elliott Footwear 

Elliott Footwear

Diolch o galon i Sam Carew am fod yn Romodel ysbrydoledig ac am eich cefnogaeth amhrisiadwy i Romodels. Mae eich cyngor a'ch arweiniad wedi ein grymuso fel elusen newydd ar ein taith, ac mae eich dylanwad yn parhau i'n hysbrydoli i gael effaith gadarnhaol. Mae eich haelioni a'ch cefnogaeth yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch o galon!

Elliott Footwear

Rusty Design

Rusty Design

Hoffem ddiolch yn ddiffuant i Morgan a Bleddyn yn Rusty Design am eu cefnogaeth anhygoel i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o raglenwyr a pheirianwyr er daioni. Mae eich ymroddiad i hyrwyddo'r Gymraeg mewn busnes, ochr yn ochr â'ch dyluniadau arloesol a chynaliadwy, yn ysbrydoliaeth wirioneddol. Mae eich gwaith nid yn unig yn lleihau gwastraff tirlenwi ond hefyd yn gosod enghraifft bwerus o sut y gall dylunio fod yn greadigol ac yn wyrdd.

Rusty Design

Equal Education Partners 

equal web.png

Hoffem ddiolch i Newid am eu cefnogaeth ac i Paul yn enwedig, am ei gyngor a'i fentoriaeth wrth i ni barhau i wthio posibiliadau dysgu digidol ac allgymorth. Mae'n anhygoel cael y gefnogaeth 1:1 hon wrth i ni barhau i gynyddu ein heffaith.   

equal web.png
Other Way to Romodel

Ymunwch â’r Genhadaeth

Diolch byddwn mewn cysylltiad yn fuan 

Gadewch i ni ysbrydoli disgyblion ar draws eich ysgol i gael breuddwydion ehangach.
Gadewch i ni alluogi’r disgyblion yn eich bywyd i greu dyfodol iddynt eu hunain lle mae unrhyw yrfa yn bosibl.

RoModel_MASTER_ENDLINE-FINAL_Darganfod Profi Credu_Artboard 1_edited.png
bottom of page